Top
BarryBiomass-42.jpg

CROESO I

BIOMAS Y BARRI

Yma yn Biomas y Barri, rydym ni’n defnyddio nwyeiddio i gynhyrchu trydan adnewyddadwy, glân. Caiff nwyeiddio biomas – defnyddio deunydd organig i greu trydan – ei gefnogi gan lywodraeth y DU fel ffordd fodern o gynhyrchu egni glân a lleihau’r galw am danwyddau ffosil. 

Dechreuwyd adeiladu Biomas y Barri yn 2016 a phan fyddwn mewn llawn weithrediad, byddwn yn cynhyrchu digon o drydan i wasanaethu 23,000 o gartrefi.

Mae ein gwefan yma i roi mwy o wybodaeth i chi am ein safle ynni, y broses nwyeiddio a beth mae’n ei olygu yn nhermau cynhyrchu egni ac ar gyfer ein cymdogion ni yn y Barri. Os oes gennych unrhyw gwestiwn Cysylltwch â Ni . Yn y cyfamser, porwch ein gwefan ac ymwelwch â’r tudalennau Amdanom NiY WyddoniaethCwestiynau Cyffredin a Newyddion er mwyn darganfod mwy o wybodaeth.

DYSGU MWY AMDANOM NI

RYDYM NI’N TEIMLO’N FRWD DROS GYNHYRCHU TRYDAN DIOGEL, GLÂN BYDD YN GWASANAETHU CENEDLAETHAU I DDOD

Yn ein tîm ni ceir 16 aelod tra medrus a hyfforddedig, gyda phob un yn chwarae rôl bwysig wrth ddod ag egni adnewyddadwy i’r Barri.

Caiff safle Biomas y Barri ei reoleiddio’n llawn ac rydym wedi ymrwymo i’r safonau amgylcheddol a diogelwch uchaf posib. Ni fydd unrhyw fwg yn dod o’n simneiau a chaiff allyriadau eu pasio trwy system rheoli llygredd fel na fydd unrhyw effaith ar yr amgylchedd neu iechyd pobl pan maent yn cael eu rhyddhau. Mae’r holl allyriadau sy’n cael eu rhyddhau yn cydymffurfio gyda’r Terfynau Allyriadau a amlinellir yn y Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol (CAD).

Cronfa fuddsoddiad sy'n berchen ar Biomas y Barri a chaiff ei reoli gan Aviva Investors ar ran y gronfa. Caiff y safle a’n gweithrediad eu monitro’n llawn gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a’u rheoleiddio ganddynt trwy ein Caniatâd Amgylcheddol.  

PŴER GLÂN

MAE BIOMAS Y BARRI YN SAFLE NWYEIDDIO SY’N DEFNYDDIO NADDION PREN GWASTRAFF I GYNHYRCHU YNNI ADNEWYDDADWY. DIM OND NADDION PREN SYDD YN CYRRAEDD EIN GOFYNION ANSAWDD LLYM A DDEFNYDDIR.

DYMA SUT MAE’N GWEITHIO

070618_001-min.jpg

Caiff naddion pren gwastraff eu cludo yn syth i ein hadeilad storio tanwydd, sydd wedi’i amgáu er mwyn atal llwch pren rhag gwasgaru yn yr aer. Caiff y naddion pren eu bwydo mewn i’r system nwyeiddio trwy felt cludo seliedig, aerglos. Gwaredir unrhyw naddion pren nad sydd yn cyrraedd ein meini prawf llym yn ddiogel, gan ddilyn ein gweithdrefn ar gyfer derbyn a gwrthod gwastraff.

 

070618_013.jpg

Pan gyflwynir y naddion pren i’r system nwyeiddio, maent yn cael eu nwyeiddio. Golyga hyn y caiff y naddion pren eu cynhesu, nid eu hylosgi, i dros 950 gradd Celsius, nes eu bod yn cynhyrchu nwy hylosg, synthetig[ED1] o’r enw syngas. Caiff y syngas ei hylosgi er mwyn cynhyrchu nwy ffliw tymheredd uchel, sydd yn pasio trwy system adfer gwres.

070618_017.jpg

Caiff y gwres o’r broses yma ei sianelu mewn i foeler confensiynol a’i drosi mewn i ager tra phoeth. Mae’r ager yn pasio trwy eneradur tyrbin, a fydd yn cynhyrchu o gwmpas 10MWe o drydan adnewyddadwy sy’n cael ei fwydo mewn i’r rhwydwaith dosbarthu lleol. Mae hyn yn ddigon o ynni ar gyfer 23,000 o gartrefi.

070618_021.jpg

Rhan bwysig o gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn y modd yma ydy monitro a glanhau'r nwy ffliw. Caiff holl allyriadau'r safle eu rhoi trwy system rheoli drwyadl sydd yn eu hidlo a glanhau er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd terfynau rheoleiddio.

070618_027.jpg

Mae systemau rheoli allyriadau datblygedig y safle yn lleihau a gwaredu presenoldeb nitrogen deuocsid, sylffwr deuocsid, carbon monocsid a nwyon asid yn drwyadl. Mae’r system yma hefyd yn cynnwys system hidlo allyriadau, sydd wedi ei dylunio i gael gwared ar ronynnau llwch mân.  Bydd y safle yn cydymffurfio gyda phob terfyn allyriadau sy’n cael ei osod gan Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol (CAD) yr Undeb Ewropeaidd (UE).

070618_023.jpg

Nid yw nwyeiddio yn cynhyrchu llawer o wastraff. Y prif wastraff solid bydd llwch mân sydd yn cael ei greu yn ystod y broses gynhesu gychwynnol. Bydd dau draean o’r llwch yn cael ei ailgylchu a’i ddefnyddio gan y diwydiant adeiladu a chaiff y traean sy’n weddill ei drin cyn cael ei waredu mewn claddfa sbwriel. 

DARGANFOD Y DIWEDDARAF

Lawrlwythwch ein cylchlythyrau er mwyn darganfod y newyddion diweddaraf am Biomas y Barri

CWESTIYNAU CYFFREDIN

Sut mae safle ynni Biomas y Barri yn gweithio? +

Mae’r safle ynni biomas yn cynhesu naddion pren gwastraff sydd wedi’u paratoi ar dymheredd uchel er mwyn cynhyrchu gwres, sydd yna yn cael ei ddefnyddio i bweru tyrbin ager er mwyn cynhyrchu ynni adnewyddadwy. Mae hyn yn digwydd mewn pedwar cam:

Derbyn pren gwastraff: Bydd yr holl wastraff pren yn cael ei gludo’n syth mewn i adeilad storio tanwydd caeëdig. Pan fod angen, bydd y naddion pren yn cael eu bwydo mewn i’r adeilad nwyeiddio trwy system gludo. Dim ond naddion pren sydd yn cyrraedd gofynion ansawdd llym y safle bydd yn cael eu defnyddio. Bydd unrhyw ddeunydd arall neu naddion pren eilradd yn cael eu gwrthod.

Nwyeiddio: Caiff naddion pren eu bwydo mewn i’r system nwyeiddio trwy fecanwaith cludo seliedig, aerglos, lle cânt eu nwyeiddio i gynhyrchu nwy hylosg, o’r enw syngas. Defnyddir y syngas i gynhyrchu nwy ffliw tymheredd uchel. Cesglir y gwres o’r broses yma mewn boeler confensiynol a’i drosi mewn i ager tra phoeth.

Cynhyrchu trydan: Mae’r ager tra phoeth yna yn cael ei drosglwyddo i'r tyrbin ager a’r generadur a fydd yn cynhyrchu 10MWe o drydan adnewyddadwy ar y rhwydwaith dosbarthu lleol - digon i bweru 23,000 o gartrefi.

Glanhau nwy ffliw: Caiff holl allyriadau'r safle eu glanhau gan ddefnyddio system sydd yn niwtraleiddio a hidlo’r allyriadau er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio gyda’r terfynau diogelwch a gosodir gan Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol (CAD) yr Undeb Ewropeaidd (EU), a’u bod yn ddiogel ar gyfer yr amgylchedd.

Beth yw biomas? +

Mae’r term biomas yn disgrifio unrhyw danwydd adnewyddadwy sy’n cael ei greu allan o ddeunydd organig naturiol, yn yr achos yma, naddion pren gwastraff.

Ydy’r ynni’n adnewyddadwy? +

Ydy. Caiff yr ynni ei gynhyrchu trwy nwyeiddio deunydd organig, yn ein hachos ni, naddion pren gwastraff. Caiff y naddion pren gwastraff sy’n cael eu defnyddio ar y safle eu hystyried yn 100% adnewyddadwy ac nid oes ganddynt effaith carbon.

Faint o ynni bydd yn cael ei gynhyrchu gan y cyfleuster a ble bydd yn ynni’n mynd? +

Bydd y cyfleuster yn cynhyrchu 10MWe o drydan adnewyddadwy, a fydd yn mynd mewn i’r rhwydwaith dosbarthu lleol. Mae hynny’n ddigon i bweru 23,000 o gartrefi.

Beth yw nwyeiddio? +

Proses dan oruchwyliaeth ydy nwyeiddio ble caiff deunydd, yn yr achos yma, naddion pren gwastraff, ei gynhesu ar dymheredd uchel i alluogi nwyon i gael eu rhyddhau. Caiff y tanwydd yma neu nwy synthetig (syngas) ei ddefnyddio i gynhyrchu gwres.

Yn achos safle Biomas y Barri, caiff y gwres a gynhyrchir trwy ddefnydd nwyon ei drosi mewn i ager tra phoeth, sydd yna’n cael ei ddefnyddio i greu trydan adnewyddadwy mewn generadur tyrbin ager. Caiff holl allyriadau'r safle eu glanhau er mwyn cael gwared ar lygryddion cyn cael eu rhyddhau i’r atmosffer.

Pa allyriadau sy’n cael eu rhyddhau yn ystod y broses nwyeiddio? +

Y prif lygryddion sy’n cael eu rhyddhau yn ystod nwyeiddio ydy nitrogen deuocsid, sylffwr deuocsid, carbon monocsid, gronynnau llwch mân a nwyon asid. Caiff y llygryddion yma eu pasio trwy system reoli llygredd cyn iddynt gael eu rhyddhau, fel eu bod o fewn gofynion y Terfynau Allyriadau sy’n cael eu gosod allan gan y Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol (CAD).

Mae’r system yma hefyd yn cynnwys system hidlo allyriadau, sydd wedi ei dylunio i gael gwared ar ronynnau llwch mân. Bydd y safle yn cydymffurfio gyda phob terfyn allyriadau gosodwyd gan Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol (CAD) yr Undeb Ewropeaidd (UE).

Erbyn i’r allyriadau gael eu rhyddhau byddant wedi pasio trwy’r systemau rheoli a monitro llygredd, sydd yn sicrhau bod allyriadau yn ddiogel i gael eu rhyddhau mewn i’r atmosffer.

Gallwch weld y terfynau yn y Caniatâd Amgylcheddol rhoddwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Bydd y safle ynni’n swnllyd pan fo’n weithredol? +

Mae’r safle a’r prif adeilad prosesu wedi cael eu dylunio a’u hadeiladu er mwyn lleihau a rheoli sŵn, felly ni fydd effaith sylweddol ar yr adeiladau gerllaw.

Mae yna ofynion llym ynglŷn â rheolaeth lefel sŵn ac acwstig, fel y gosodir gan y caniatâd amgylcheddol; byddwn yn cyrraedd y gofynion yma bob tro.

Pryd fydd danfoniadau i'r safle yn cael eu gwneud? +

Bydd danfoniadau i’r safle a phob gweithrediad allanol yn cael eu cyfyngu i’r oriau yma yn unig:

Dydd Llun i Ddydd Sadwrn: 7 y bore – 7 yr hwyr

Dydd Sul, gwyliau cyhoeddus a gwyliau banc: 8 y bore – 4 yr hwyr

Oes yna unrhyw safleoedd tebyg yn y DU? +

Oes. Mae yna nifer o safleoedd tebyg ar draws y DU. Mae’r safle Levenseat, sydd i’r gogledd o Forth yn Lanark, yr Alban, yn cynhyrchu 12.5 MWe o ynni adnewyddadwy. Yn Shepperton, Surrey, mae yna safle nwyeiddio sy’n cynhyrchu 6MWe o ynni adnewyddadwy. Mae Ince Bio Power yn Swydd Gaer yn cynhyrchu 21.5 MWe o ynni adnewyddadwy. Cafodd safle ynni adnewyddadwy 28 MWe ei adeiladu ar yr Afon Humber llynedd, tra bod ail safle yn Melton, Hull yn cynhyrchu 10 MWe o ynni adnewyddadwy. Mae yna safle 10 MWe tebyg wedi cael ei adeiladu yn Boston, Swydd Lincoln.

CYSYLLTU Â NI